Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Carchardai a Llysoedd
Cyflwynwyd y Bil Carchardai a Llysoedd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Chwefror 2017. Bil
Llywodraeth y DU ydoedd, ac fe’i noddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Roedd y
Bil yn ymwneud â diogelwch a diwygio carchardai, diwygio'r llysoedd, y
farnwriaeth, ac iawndal yn ymwneud â chwiplach.
Roedd y Bil yn ddarostyngedig
i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dilynir y broses
hon mewn achosion lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i
ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn
perthynas â’r Bil Carchardai a Llysoedd (PDF, 229KB) ar 9 Mawrth 2017.
Ar 14 Mawrth 2017, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau; a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno
oedd 4 Mai 2017.
Trafododd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd ar 5 Ebrill 2017.
Syrthiodd y Bil Carchardai a
Llysoedd ym mis Ebrill 2017 yn sgil diddymu Senedd y DU, ac felly nid oedd
angen cydsyniad deddfwriaethol yn ei gylch.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Gadawyd
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2017
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Carchardai a Llysoedd - 9 Mawrth 2017 (PDF, 176KB)
- Y Pwyllgor Busnes: Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Carchardai a Llysoedd - 16 Mawrth 2017 (PDF, 52KB)
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - 12 Ebrill 2017
PDF 235 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at y Gadeirydd y Pwyllgor - 30 Ebrill 2017
PDF 75 KB