Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Carchardai a Llysoedd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Carchardai a Llysoedd

Cyflwynwyd y Bil Carchardai a Llysoedd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Chwefror 2017. Bil Llywodraeth y DU ydoedd, ac fe’i noddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Roedd y Bil yn ymwneud â diogelwch a diwygio carchardai, diwygio'r llysoedd, y farnwriaeth, ac iawndal yn ymwneud â chwiplach.

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dilynir y broses hon mewn achosion lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Carchardai a Llysoedd (PDF, 229KB) ar 9 Mawrth 2017. 

Ar 14 Mawrth 2017, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno oedd 4 Mai 2017.

Trafododd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd ar 5 Ebrill 2017.

Syrthiodd y Bil Carchardai a Llysoedd ym mis Ebrill 2017 yn sgil diddymu Senedd y DU, ac felly nid oedd angen cydsyniad deddfwriaethol yn ei gylch.

 

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Gadawyd

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2017

Dogfennau