P-05-745 Mwy o Darpariaeth ar gyfer Chwaraeon Moduro Oddi ar y Ffordd

P-05-745 Mwy o Darpariaeth ar gyfer Chwaraeon Moduro Oddi ar y Ffordd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonathan Barrett ar ôl casglu 318 llofnod. 

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu mwy o gymorth drwy Gyfoeth Naturiol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer beiciau modur oddi ar y ffordd. Ymhellach, gofynnwn am i’r Cynulliad bennu cyfeiriad ar gyfer awdurdodau lleol a’r heddlu yn unol â Grŵp Moduron Oddi ar y Ffordd Cymru. Yn olaf, gofynnwn am i Weinidogion gyfarfod â rhai o’r bobl sy’n ymwneud â darpariaeth oddi ar y ffordd i drafod y cymorth a geisir gennym.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae’r defnydd o “feiciau modur oddi ar y ffordd” yn bwnc sydd wedi hollti barn yng Nghymru yn aml, gyda rhai o blaid ac eraill yn erbyn. O ganlyniad i hyn, mae nifer o’r rhai sy’n defnyddio ffyrdd yn gyfreithlon wedi cael eu pardduo, ac ni wahaniaethwyd rhwng y defnyddwyr cyfreithlon a’r rhai sy’n reidio’n wrthgymdeithasol.

Mae cerbydau oddi ar y ffordd yn werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i economi Cymru. Yn 2002, cynhaliodd yr Undeb Awtofeicio arolwg ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf ac amcangyfrifwyd bod 10,000 o feiciau a cherbydau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio yn ardal y cyngor hwnnw. Mae busnesau lleol yn gweld cynnydd cyson bob blwyddyn yn y defnydd o feiciau. Yn achos y rhan fwyaf, ceisir ymhél â’r gamp yn gyfreithiol, ond mae’r ffaith bod cyn lleied o leoliadau, a’r gostyngiad yn nifer y cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig, yn golygu bod nifer gynyddol yn methu â chadw at y gyfraith. Yn y sefyllfa sydd ohoni, mae’r heddlu yn aml yn targedu defnyddwyr oddi ar ffordd, gan gynnwys y rhai sy’n ymddwyn yn gyfreithiol ac yn gyfrifol.

Mae Grŵp Moduron Oddi ar y Ffordd Cymru, sy’n cynghori’r Cynulliad, yn ogystal â phob un o’r 22 awdurdod lleol a’r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru, wedi dod i’r casgliad mai dull triphlyg o addysg, gorfodaeth a darpariaeth yw’r unig ffordd o roi stop ar weithgarwch anghyfreithlon. Er bod addysg a gorfodi yn digwydd yn rheolaidd, ymddengys mai ychydig iawn sy’n cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr moduron oddi ar y ffordd. Ar hyn o bryd, yn ne Cymru, un trac motocrós sydd yn agored i’r cyhoedd. Mae hynny’n annigonol, ac ar gyfer beicwyr motocrós yn unig y mae’r ddarpariaeth honno. Mae llawer o’r cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig yn cael eu cau neu eu gwneud yn destun Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, ac mae mentrau i wneud darpariaeth yn cael eu hatal gan yr heddlu neu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Drwy greu mannau ar gyfer beicio modur oddi ar y ffordd, gellid lleihau yn aruthrol y defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau modur. Ym Merthyr Tudful, creodd Cyfoeth Naturiol Cymru drac beicio mynydd pwrpasol a ddenodd 66,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf.

 

Feic modur oddi ar y ffordd

Feic modur oddi ar y ffordd

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Pen-y-Bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2017