P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Geiriad y ddeiseb:
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i recordio neu ddarlledu holl gyfarfodydd cynghorau sy’n agored i’r cyhoedd, neu eu ffrydio ar y we, er mwyn bod yn agored a thryloyw. Dylai’r ddyletswydd hon alluogi’r cyhoedd, fel arsyllwyr cyfrifol, i recordio neu ffilmio cyfarfodydd o’r fath heb gael caniatâd o flaen llaw, a rhoi rhwydd hynt iddynt ddefnyddio’r deunyddiau y maent yn eu recordio i ddarparu cyswllt uniongyrchol ac ehangach â’r etholwyr.

 

Prif ddeisebydd:

Jacqui Thompson

 

Nifer y deisebwyr:

223

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Y Broses Ymgynghori

Gwelwch y llythyr ymgynghori isod am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at Deisebau@cymru.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

 

Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai’r dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Iau 3 Tachwedd 2011. Efallai na fydd yn bosibl ystyried yr ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dogfennau