P-05-744 Atal Gasympio; Dilyn y Broses Brynu yn yr Alban

P-05-744 Atal Gasympio; Dilyn y Broses Brynu yn yr Alban

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_04.jpg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Victoria Bridle ar ôl casglu 18 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r ffordd yr ydym yn prynu ac yn gwerthu tai ac i asesu a fyddai'n bosibl gweithredu system fel yr un yn yr Alban i atal gasympio.munedau yn Gyntaf yn gwarchod Canolfan Ieuenctid Forsythia rhag cael ei gau.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Fy enw i yw Victoria Bridle.  Roedd fy ngŵr a minnau'n arfer byw yn ne-ddwyrain Llundain a gwnaethom symud i ogledd Cymru tua thair blwyddyn a hanner yn ôl. Ychydig wythnosau'n ôl gwnaethom gynnig ar dŷ yr oeddem wedi syrthio mewn cariad ag ef. Derbyniwyd y cynnig ac roedd y tŷ Wedi'i Werthu yn Amodol ar Gytundeb. Dywedodd ein gwerthwr tai wrthym ei fod wedi dweud wrth yr asiant arall i'w dynnu oddi ar y farchnad fel nad oedd ar gael ar gyfer ymweliadau na derbyniadau mwyach.  Roedd popeth yn mynd yn dda iawn hyd nes inni gael gwybod gan ein gwerthwr tai fod yr asiant arall wedi cael galwad ffôn yn dweud bod rhywun arall wedi gwneud cynnig a'i fod wedi'i dderbyn. Felly y cyfan y gwnaethom ei dalu oedd ffioedd y cyfreithwyr.

Gwnaethom sefydlu'r ddeiseb hon er mwyn ceisio atal hyn rhag digwydd gan fod gennym bopeth, gan gynnwys cynnig morgais, yn eu lle.

At hynny, gwnaethom hyd yn oed weld y gwerthwyr ar y dydd Sadwrn gyda'n plentyn 18 mis oed i gael golwg terfynol o gwmpas ar y gosodiadau a'r ffitiadau.  Dywedodd y gwerthwyr hyd yn oed beth yr oeddent am eu gadael inni a gwnaethom ysgwyd llaw hefyd. Wrth ddweud wrth bobl eraill am hyn, roeddent yn meddwl bod gasympio yn anghyfreithlon, ond yn amlwg nid yw hynny'n wir.

Ac i goroni'r cwbl, es i at werthwr tai arall y diwrnod o'r blaen i ofyn a oedd ganddynt unrhyw beth arall ar werth. Gwnaethant hyd yn oed geisio rhoi'r tŷ y cawsom ein gasympio arno inni. Felly, maent yn amlwg yn ceisio gasympio'r bobl hyn, sy'n amlwg yn anghywir. Llofnodwch y ddeiseb hon a'i drosglwyddo i deulu a ffrindiau i'w lofnodi er mwyn ceisio atal hyn rhag digwydd.

 

Allweddi mewn drws a rhes o dai.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: cau'r ddeiseb o ganlyniad i'r eglurder ychwanegol am gadw pwerau'n ôl yn y maes hwn i Senedd y DU a ddarparwyd gan Ddeddf Cymru 2017; ac ysgrifennu at y deisebydd i awgrymu ei fod yn ystyried cyflwyno deiseb i Senedd y DU ac ysgrifennu at Adran Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y mater.

  

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2017