NDM 6237 Dadl: Morlynnoedd Llanw
NDM6237
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu Adroddiad
Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant
ynni morlynnoedd llanw ym Mhrydain.
2. Cydnabod yr angen i
Lywodraeth Prydain gysylltu â Llywodraeth Cymru yn barhaus wrth ddatblygu a
gweithredu polisïau ar gyfer morlynnoedd llanw.
3. Cydnabod, wrth sicrhau
y trawsnewidiad i economi carbon isel, y dylai Cymru gael cymaint o fanteision
economaidd â phosib o'r diwydiant ynni morlynnoedd llanw a thechnolegau llanw
eraill, ar yr amod bod prosiectau o'r fath yn derbyn y gymeradwyaeth
angenrheidiol.
Dogfen Ategol
Adroddiad Hendry
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/09/2017
Angen Penderfyniad: 14 Chwe 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS