Cydgrynhoi a Chodeiddio

Cydgrynhoi a Chodeiddio

Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad, sef Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru ym mis Mehefin 2016. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn polisi codeiddio gan ddwyn ynghyd yr holl ddeddfwriaeth y mae ei chynnwys o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd ac sydd, ar hyn o bryd, wedi'i wasgaru ar draws darnau amrywiol o ddeddfwriaeth Senedd y Deyrnas Unedig a / neu'r Senedd mewn darn o ddeddfwriaeth y Senedd.

 

Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad llafar ar Godau Cyfraith Cymru ar 13 Rhagfyr 2016. Ar 8 Mai 2017, cafodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* (y Pwyllgor) dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol am godeiddio Yna, ar 19 Gorffennaf 2017, ymatebodd y Cwnsler Cyffredinol yn ffurfiol i Gomisiwn y Gyfraith.

 

Ar 19 Mehefin 2017, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch

Dehongli Cyfraith Cymru – i ystyried deddf dehongli i Gymru

 

Ar 20 Mawrth 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch

Y Bil Deddfwriaeth Drafft (Cymru) (y Bil drafft). Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol  bapur briffio technegol ar y Bil drafft i'r Pwyllgor ar 14 Mai 2018.

 

Ar 3 Rhagfyr 2018, cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru) ("Y Bil") yn y Senedd. Craffodd y Pwyllgor ar y Bil, a phasiodd y Senedd y Bil ar 16 Gorffennaf 2019. Yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cwnsler Cyffredinol gyhoeddi datganiad yn egluro ei gynigion a’i fwriadau ar gyfer codeiddio cyfraith Cymru. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Pwyllgor Busnes geisio barn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wrth iddo baratoi Rheolau Sefydlog newydd ar gyfer Biliau cydgrynhoi, codeiddio a Biliau diwygio’r gyfraith.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/02/2017

Dogfennau