P-05-741 Mae angen Cyfyngiadau Llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru

P-05-741 Mae angen Cyfyngiadau Llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru

Wedi'i gwblhau
 

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Thomas ar ôl casglu 19 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Mae angen llywodraethu a chraffu llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae angen rhoi'r gorau i droi tir amaethyddol proffidiol yn gynefinoedd ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle mae'n rhaid i'r ffermwr gydymffurfio gyda hyd yn oed mwy o gyfyngiadau er mwyn ceisio gwneud bywoliaeth!

Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yr ochr Amgylcheddol) yn sefydliad sy'n cynnwys swyddogion nad ydynt yn barod i wrando ar wybodaeth leol, a dim ond yn rhoi cyngor yn unol â'r hyn y gallant ei ddarllen mewn llyfrau! Dim ond un nod mewn bywyd sydd ganddynt, a hynny yw troi ein cefn gwlad yn un warchodfa natur amhroffidiol enfawr ar draul y trethdalwr a chymunedau gwledig yn gyffredinol! Mae angen i'n cynrychiolwyr etholedig graffu'n agosach ar eu gwaith!

Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i adolygu arferion a pholisïau cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y ffordd y mae'n gweinyddu tir a allai gael ei droi'n gynefin neu'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ar hyn o bryd, mae'r sefydliad yn gwneud mwy o ddrwg na da i gefn gwlad! Mae angen taro cydbwysedd a fydd o fudd i bawb.

 

Mynyddoedd

Mynyddoedd

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail bod:

  • Adnoddau Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod barn tirfeddianwyr a meddianwyr, yn ogystal ag ystyriaethau economaidd ehangach, yn cael eu hystyried wrth benderfynu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;
  • Nid yw'r Pwyllgor yn gallu ymyrryd yn y sefyllfa benodol dan sylw gyda'r tir wedi'i feddiannu gan y deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Dwyfor Meirionnydd
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2017