Senedd@
Bwriad rhaglen "Senedd@" yw hyrwyddo gwaith y
Cynulliad ymhlith pobl Cymru, a hynny drwy ddarparu ystod o weithgareddau
ymgysylltu, a thrwy gynnal busnes ffurfiol y Cynulliad mewn cymunedau ledled y
wlad. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau eisoes o dan y rhaglen Senedd@ yng
Nghasnewydd, Abertawe, Wrecsam a Delyn, gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgor
allanol a gweithdai gyda grwpiau cymunedol a grwpiau ieuenctid.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2018