NDM6196 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6196 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol
Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.
2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion
wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr
Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew
neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad
Blynyddol Presennol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r
diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid
llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2017
Angen Penderfyniad: 11 Ion 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS