Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar fonitro newid yn yr hinsawdd

Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar fonitro newid yn yr hinsawdd

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn llunio’r grŵp hwn er mwyn iddo ddarparu cyngor arbenigol i helpu gyda gwaith craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru tuag at gyflawni ymrwymiadau polisi, targedau statudol a dyletswyddau yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys mesurau lliniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd.

 

Bydd hyn yn cynnwys:

  • darparu cyngor i gefnogi gwaith craffu blynyddol;
  • cefnogi’r Pwyllgor gyda’i waith craffu ôl-ddeddfu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • cysylltu’n rhagweithiol â’r Pwyllgor mewn ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg ar draws amrywiaeth eang o sectorau; ac#
  • ymateb i geisiadau penodol am gyngor mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd arall ar waith y Pwyllgor.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/12/2016

Dogfennau

Papurau cefndir