Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar fonitro newid yn yr hinsawdd
Mae’r Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn llunio’r grŵp
hwn er mwyn iddo ddarparu cyngor arbenigol i helpu gyda gwaith craffu ar gynnydd
Llywodraeth Cymru tuag at gyflawni ymrwymiadau polisi, targedau statudol a
dyletswyddau yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys mesurau
lliniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd.
Bydd hyn yn
cynnwys:
- darparu cyngor i gefnogi gwaith craffu
blynyddol;
- cefnogi’r Pwyllgor gyda’i waith craffu
ôl-ddeddfu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
- cysylltu’n rhagweithiol â’r Pwyllgor mewn
ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg ar draws amrywiaeth eang o sectorau;
ac#
- ymateb i geisiadau penodol am gyngor mewn
cysylltiad ag unrhyw agwedd arall ar waith y Pwyllgor.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/12/2016
Dogfennau
- Gwahoddiad i'r Arglwydd Deben, Cadeirydd Comisiwn y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (Saesneg yn unig) - 18 Gorffennaf 2017 - 18 July 2017
PDF 169 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd am y dull y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i graffu ar gynnydd o ran newid hinsawdd yng Nghymru – 16 Rhagfyr 2016
PDF 215 KB
- Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - 25 Mai 2018
PDF 870 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor o fis Mai 2018 - 10 Gorffennaf 2018
PDF 522 KB
- Adroddiad Blynyddol ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran newid hinsawdd, 2019-20 - 18 Rhagfyr 2019
PDF 486 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor o fis Rhagfyr 2019 - 31 Ionawr 2020
PDF 500 KB
Papurau cefndir