Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal ymchwiliad i hawliau
dynol yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ymchwiliad byr Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad i Ddyfodol Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol yng Nghymru, ac mae hefyd wedi’i lywio gan ymgynghoriad y
Pwyllgor ar flaenoriaethau a gynhaliwyd yn ystod haf 2016.
Cylch
gorchwyl:
Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:
- yr effaith ar y modd yr amddiffynnir hawliau dynol yng Nghymru wrth
i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd,
- effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a
chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei le, a
- chanfyddiadau'r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru, yn
arbennig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru.
Casglu tystiolaeth
I ddechrau, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth y
ceir manylion amdanynt yn y tabl isod. Ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc hefyd;
mae’r ymatebion wedi’u cyhoeddi.
Sesiwn
dystiolaeth |
Dyddiad,
agenda a chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Melanie Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru a
Strategaeth a Pholisi Corfforaethol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol June Milligan, Comisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru |
|||
2.
Academyddion Dr Simon Hoffman, Darlithydd Cysylltiol, Coleg y
Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe Yr Athro Thomas Glyn Watkin, Cyn Bennaeth Ysgol y
Gyfraith, Bangor a Chwnsel Deddfwriaethol Cyntaf Cymru 2007-2010 |
Yn dilyn y sesiynau
tystiolaeth, cytunodd y Pwyllgor i gyfyngu ar gwmpas yr ymchwiliad i
ganolbwyntio ar effaith Brexit ar hawliau dynol.
O ganlyniad i hyn, gwnaeth y
Pwyllgor waith
ar y cyd â’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i
ddeall effaith Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Yn dilyn y gwaith hwn,
cyhoeddodd y Pwyllgorau eu canfyddiadau
ar y cyd (PDF, 1MB).
Bydd y Pwyllgor yn parhau i
fonitro cynnydd Brexit i sicrhau y cydymffurfir â’n hegwyddorion mewn perthynas
â hawliau dynol. Mae egwyddorion craidd y Pwyllgor ar gael yn ein gohebiaeth
isod, dyddiedig 12 Rhagfyr 2017.
Os bydd y Pwyllgor yn
penderfynu cynnal rhagor o sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol, bydd yn cyfleu
hyn ar ei dudalen
hafan a thrwy ei gyfrif Twitter.
Cadw mewn cysylltiad
Os hoffech wybod rhagor am
waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen
hafan, dilynwch ei gyfrif
Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Math o fusnes: Arall
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2016
Dogfennau
- Datganiad gan y Cadeirydd ar yr ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru
PDF 77 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (26 Ebril 2017)
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (23 Mai 2017)
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (2 Mehefin 2017)
PDF 104 KB
- Llythyr oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (8 Awst 2017)
PDF 168 KB Gweld fel HTML (5) 11 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb (12 Hydref 2017) (Saesneg yn unig)
PDF 39 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar y cyd y DU ar fenywod at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd (24 Hydref ) (Saesneg yn unig)
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (12 Rhagfyr 2017)
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (12 Rhagfyr 2017)
- Llythyr at Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip (12 Rhagfyr 2017)
- Llythyr at Gadeirydd y Cydbwyllgor Hawliau Dynol yn ymwneud (Saesneg yn unig) (12 Rhagfyr 2017)
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn ymwneud (Saesneg yn unig) (12 Rhagfyr 2017)
- Llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymwneud (12 Rhagfyr 2017)
PDF 91 KB
- Llythyr oddi wrth Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymwneud (24 Ionawr y 2018)
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol (1 Chwerfror 2018)
- Llythyr ar y cyd gyda Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (5 Ebrill 2018)
- Llythyr gan y Prif Weinidog (16 Mai 2018)
PDF 309 KB
- Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru (23 Gorffennaf 2018)
- Brexit a Chydraddoldebau: Casgliadau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn deillio o'u gwaith ar y cyd – 25 Hydref 2018
PDF 1 MB
- Ymateb gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban, mewn perthynas â'r ymchwiliad: 'Getting Rights Right - Human Rights and the Scottish Parliament (4 Feb 2019)
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)