Diwygio Cyfansoddiadol

Diwygio Cyfansoddiadol

Mae Deddf Cymru 2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru. Mae’n rhoi pwerau i’r Senedd dros feysydd polisi newydd, gan gynnwys maint y Senedd, ei system etholiadol a'i drefniadau mewnol.

Y llynedd, cyhoeddodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad adroddiad ar ei waith: Senedd sy'n Gweithio i Gymru. Bu'r Panel yn ystyried capasiti'r Senedd i gyflawni ar gyfer pobl Cymru, a daeth i'r casgliad fod y Senedd, gyda dim ond 60 Aelod, yn rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Bu'r Panel yn ystyried hefyd sut y dylid ethol yr Aelodau, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Senedd.

Ymgynghorodd Comisiwn y Senedd â phobl Cymru rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill 2018 ar argymhellion y Panel Arbenigol, a diwygiadau eraill i drefniadau etholiadol a gweithredol y Senedd a allai wneud y sefydliad yn ddeddfwrfa fwy hygyrch ac effeithiol.

Canlyniadau’r ymgynghoriad

Cyhoeddwyd adroddiad llawn yr ymgynghoriad, yn ogystal ag adroddiad cryno a fersiwn hawdd ei darllen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar brif dudalen diwygio'r Senedd.

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost am waith diwygio Comisiwn y Senedd.

 

Math o fusnes:

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2018

Ymgynghoriadau