P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn Ysgolion

P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn Ysgolion

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON Cymru Wales ar ôl casglu  752 llofnodion

Geiriad y ddeiseb

 ​Ers mis Ebrill 2016, mae Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn gorfod cofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg – y corff sydd hefyd yn rheoleiddio athrawon a darlithwyr addysg bellach.

Eleni, y gwir ffi cofrestru a godwyd ar Weithwyr Cymorth Dysgu oedd £15. £45 oedd y ffi a godwyd ar staff dysgu a darlithio. Nid yw'r ffi a godir fis Ebrill 2017 yn glir eto. O ganlyniad i waith lobïo gan UNSAIN, cytunodd 12 o awdurdodau lleol i dalu'r ffi ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion yn 2016, naill ai'n llawn neu'n rhannol, gan gydnabod bod cyflogau'r gweithwyr hyn ymhlith yr isaf yn y sector cyhoeddus, yn bennaf oherwydd eu statws fel gweithiwr sy'n gweithio yn ystod tymor yn unig.

Hyd yma, mae cylch gorchwyl Cyngor y Gweithlu Addysg yn ymwneud yn bennaf ag athrawon a darlithwyr sy'n cael cyflogau llawer uwch na Gweithwyr Cymorth Dysgu.

Merched yw'r rhan fwyaf o Weithwyr Cymorth Dysgu, ac mae'r mwyafrif helaeth yn cael eu talu i weithio yn ystod y tymor yn unig, yn wahanol i athrawon a darlithwyr; mae eu cytundebau'n fwy tebygol o fod yn gytundebau am dymor penodol ac o fod ar drugaredd toriadau yng nghyllideb yr ysgol. Mae gan nifer ohonynt fwy nag un swydd eisoes.

Dylid cydnabod yr awdurdodau lleol hynny a ymrwymodd i dalu'r ffi'r llynedd. Ond, ar adeg pan mae cyllidebau'n tynhau o hyd, nid oes unrhyw sicrwydd y caiff ei dalu ym mis Ebrill 2017. Rhaid clustnodi arian ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol i sicrhau nad oes disgwyl i Weithwyr Cymorth Dysgu ysgwyddo cost y ffi cofrestru fis Ebrill nesaf.

Oherwydd y rhesymau hyn, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i Glustnodi arian yn y setliad llywodraeth leol i ariannu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion ym mis Ebrill 2017

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb gan fod pwnc gwreiddiol y ddeiseb fel y'i cyflwynwyd, sef lefel sybsidiaredd 2017/18, wedi cael ei sortio.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/12/2016