P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.
P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mohammed Sarul Islam ar
ôl casglu 202 llofnod bapur.
Geiriad y deiseb
Rydym ninnau sydd wedi llofnodi isod yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu system bleidleisio cynrychiolaeth
gyfrannol ar gyfer etholiadau'r 22 o gynghorau yng Nghymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni’r cynnig ym Mil Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) i roi dewis i awdurdodau lleol o ran y system etholiadol a
ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol, a’r gwaith craffu a gaiff ei gymhwyso i
hyn gan y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb .
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/01/2017.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad:
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2016