Cyflog Uwch Reolwyr

Cyflog Uwch Reolwyr

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i gyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Penderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn er mwyn ystyried agweddau ar werth am arian cyflog uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus. Nid ystyriodd y Pwyllgor gyflogau unigolion; yn hytrach, y bwriad oedd sicrhau bod digon o atebolrwydd a thryloywder mewn perthynas â chyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2014.

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn ystod hydref 2017 a chytunodd ei fod am weld gwybodaeth am gyflogau uwch swyddogion wedi’u coladu mewn adroddiadau blynyddol.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/11/2016

Dogfennau