Ymchwiliad i ofal sylfaenol

Ymchwiliad i ofal sylfaenol

Inquiry5

 

Mae gofal iechyd sylfaenol yn darparu'r pwynt cyswllt cyntaf yn y system gofal iechyd. Yn y GIG, y brif ffynhonnell o ofal iechyd sylfaenol yw drwy feddygon teulu. 

 

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar rôl ‘clystyrau’, sef grwpiau o feddygon teulu sy’n gweithio gyda gweithwyr gofal ac iechyd proffesiynol eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol, fel ffordd o drawsnewid gofal sylfaenol.

 

Cylch gorchwyl:

Nod ymchwiliad y Pwyllgor oedd darparu gwell dealltwriaeth o sut y mae’r model clwstwr yn gweithio yng Nghymru ac ystyriodd:

  • Sut y gall rhwydweithiau clwstwr meddygon teulu yng Nghymru helpu i leihau'r galw ar feddygon teulu ac i ba raddau y gall clystyrau ddarparu llwybr mwy hygyrch at ofal (gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ym maes gofal sylfaenol).
  • Y tîm amlddisgyblaethol sy'n dod i'r amlwg (sut y mae’r gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal yn perthyn i'r model clystyrau newydd a sut y gellir mesur eu cyfraniad).
  • Yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu presennol a’r gweithlu yn y dyfodol.
  • Y cyllid sy’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i glystyrau er mwyn galluogi practisau meddygon teulu i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio; sut y mae arian yn cael ei ddefnyddio i leihau'r pwysau ar bractisau meddygon teulu, gwella gwasanaethau a’r mynediad sydd ar gael i gleifion.
  • Heriau o ran llwyth gwaith a’r newid i atal sylfaenol yn y gwasanaethau a ddarperir gan feddygon teulu i wella canlyniadau iechyd y boblogaeth a thargedu anghydraddoldebau o ran iechyd. 
  • Aeddfedrwydd clystyrau a’r cynnydd gyda gwaith clystyrau mewn gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol, gan nodi enghreifftiau o arfer gorau. 
  • Arweiniad lleol a chenedlaethol yn cefnogi datblygiad y rhwydwaith clwstwr; sut y mae'r camau a gymerir yn ategu’r rheini yng ngweledigaeth 2010 a chynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru, Gosod y Cyfeiriad.
  • Mwy o fanylion am yr agweddau sy’n cael eu gwerthuso, y cymorth sy’n cael ei ddarparu’n ganolog a'r meini prawf sydd ar waith i bennu llwyddiant neu fethiant y clystyrau, gan gynnwys sut mae mewnbwn gan gymunedau lleol yn cael ei ymgorffori yn y gwaith datblygu a phrofi sy'n cael ei wneud.

 

Casglu tystiolaeth

Roedd y Pwyllgor yn gwahodd safbwyntiau ar y mater hwn. Wnaeth yr ymgynghoriad cau ar 3 Chwefror 2017.

 

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

Adroddiad

 

Adroddiad ar ymchwiliad i Ofal Sylfaenol: Clystyrau (PDF 1MB)

 

Ymateb Llywodraeth Cymru – Ionawr 2018 (PDF 369KB)

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2018.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau