Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd

Inquiry5

 

Ceir tystiolaeth y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol; trwy atal unigrwydd ac unigedd, felly, mae'n bosibl y gellir cynorthwyo i leihau'r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.  Mae llawer o bobl hŷn yn byw ar eu pen eu hunain ac yn dioddef o iechyd gwael, sy'n golygu na allant gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol heb gymorth, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.  Mae hyn yn golygu y gallant fod yn unig neu'n ynysig.  Nid yw unigrwydd ac unigedd yr un peth - mae modd profi'r naill heb y llall.  Mae angen tystiolaeth ynglŷn ag arferion da wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, gan nodi'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio a'r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau presennol ac ychwanegol er mwyn cael yr effaith fwyaf.  Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys pennu amcanion llesiant.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dangosyddion llesiant cenedlaethol fel sy'n ofynnol gan adran 10(1) o'r Ddeddf.  Ceir 46 dangosydd, ac un ohonynt (30) yw'r "ganran o'r bobl sy'n unig".  Mae dangosyddion eraill yn ymwneud â materion cysylltiedig megis lles meddyliol. Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datgan (30/9/16) ei bod yn cydnabod bod unigrwydd ac unigedd yn faterion pwysig o ran iechyd y cyhoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth trawslywodraethol yn eu cylch.

Cylch gorchwyl:

Roedd y Pwyllgor yn ceisio asesu graddfa ac effaith unigrwydd ac unigedd pobl yng Nghymru, yn enwedig pobl hŷn, a sut y gellir mynd i'r afael â hynny, trwy ystyried:

  • y dystiolaeth o raddfa problemau unigedd ac unigrwydd ac o'r rhesymau drostynt, gan gynnwys ffactorau fel tai, trafnidiaeth, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau iechyd a lles;
  • effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn o ran iechyd a lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys a ydynt yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau penodol er enghraifft pobl â dementia;
  • effaith unigrwydd ac unigedd ar y defnydd o wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ffyrdd o fynd i'r afael â phroblemau unigrwydd ac unigedd  ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys ymyriadau i fynd i'r afael yn benodol â'r problemau a phrosiectau eraill sydd ag amcanion ehangach.  Tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a'r canlyniadau ar gyfer pobl hŷn o ran iechyd a lles;
  • i ba raddau y gallai mentrau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill helpu hefyd i fynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer pobl hŷn;
  • atebion polisi yng Nghymru ar hyn o bryd a pha mor gosteffeithiol ydynt, gan gynnwys y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru.  Y dull gwaith a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru o ran cynnal seilwaith a chymorth cymunedol, a defnyddio'r fframwaith deddfwriaethol a grëwyd yn y Pedwerydd Cynulliad, e.e.  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Casglu tystiolaeth

Wnaeth y Bwyllgor gwahodd safbwyntiau ar y mater hwn.

Adroddiad

Adroddiad ar ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – Rhagfyr 2017 (PDF 897KB)

Ymateb Llywodraeth Cymru – Chwefror 2018 (PDF 211KB)

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau