Dadl gan Aelodau Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl - Y Bumed Senedd
Yn unol â Rheol
Sefydlog 11.21(iv), rhaid neilltuo amser ym mhob blwyddyn Senedd ar gyfer
dadleuon ar gynigion a gynigir gan unrhyw Aelod nad yw'n aelod o'r Llywodraeth
(a elwir hefyd yn 'Ddadleuon Aelodau'). Y Pwyllgor Busnes sy'n penderfynu faint
o amser a neilltuir i'r dadleuon hyn a'u hamlder. Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn
rhoi gwybod i'r holl Aelodau pryd y bydd pob dadl yn digwydd.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/10/2016