Ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn cynnal ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Roedd cylch gorchwyl yr adolygiad fel a ganlyn:

  • asesu effaith posibl cynigion y Comisiwn ar Gymru ac ar Barth Pysgodfeydd Cymru, ac ystyried y goblygiadau ehangach i foroedd tiriogaethol Cymru a fydd yn deillio o’r cynigion ar gyfer sector pysgodfeydd Ewrop;
  • gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y materion y dylai’r Llywodraeth eu blaenoriaethu yn ystod y trafodaethau ar y broses ddiwygio;
  • bod yn fforwm lle gall rhanddeiliaid yng Nghymru ymgysylltu â’r ddadl dros ddyfodol y polisi;
  • er mwyn dylanwadu ar y ddadl ehangach ar y PPC, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ceisio rhannu ei gasgliadau â chyrff Seneddol y DU, y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a chyrff perthnasol eraill yn Ewrop, fel Pwyllgor y Rhanbarthau.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/03/2016

Y Broses Ymgynghori

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 21 Hydref 2011.

Dogfennau