P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Isabel Bottoms, Peter Bottoms and Sarah Holgate ar ôl casglu 298 llofnod bapur.

 

Geiriad y ddeiseb

 Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder 30 milltir yr awr drwy bentref Penegoes (o arwydd pentref Penegoes o gyfeiriad Machynlleth, i ochr arall mynedfa newydd arfaethedig Maes Carafannau Maesperthi) ar yr A489 tuag at y Drenewydd; a therfyn cyflymder 40 milltir yr awr o Fachynlleth i Benegoes.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/12/2016

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

Sir Drefaldwyn

Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/10/2016