Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad i gynnig Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru.

 

Graffig sy’n dangos cyfnod yr ymgynghoriad: 17 Tachwedd am dair wythnos

 

Crynodeb

Amcanion yr ymchwiliad oedd ei gwneud yn eglur i randdeiliaid sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu’r Comisiwn Seilwaith, dylanwadu ar ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, a gwneud argymhellion ystyrlon i’r Llywodraeth.

 

Cefndir

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ymgynghori - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru - ar 17 Hydref 2016. Mae’n nodi cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru o fewn y 12 mis nesaf, ac yn gofyn cyfres o gwestiynau.

 

Bydd y Comisiwn yn darparu cyngor arbenigol a thechnegol ar strategaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith economaidd, a hynny gan edrych hyd at 30 mlynedd i’r dyfodol, ond gan beidio ag ail-edrych ar benderfyniadau a wnaed eisoes. Bydd angen iddo ystyried argymhellion cyrff eraill sydd â rôl statudol o ran y seilwaith, a bydd yn gweithio mewn ffordd sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ynghylch:

  • Beth ddylai rôl, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn fod;
  • Sut y dylai’r Comisiwn weithredu, a pha fethodolegau y dylai eu mabwysiadu ar gyfer cynnal ei waith;
  • Sut y dylai’r Comisiwn gael ei lywodraethu a’i ariannu i sicrhau ei fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru;
  • Enghreifftiau o arfer gorau yn y DU ac yn rhyngwladol y gallai’r Comisiwn ddysgu oddi wrthynt;
  • Sut y dylai gwaith y Comisiwn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant  Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • Sut, ac i ba raddau, y dylai gwaith y Comisiwn ddylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru a’i blaenoriaethau o ran prosiectau seilwaith;
  • Sut y dylai gwaith y Comisiwn ryngweithio â blaenoriaethau seilwaith rhanbarthol a Bargeinion Dinesig / Bargeinion Twf; a
  • Pha berthynas y dylai’r Comisiwn ei chael â Chomisiwn Llywodraeth y DU ar faterion trawsffiniol a seilwaith mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n rhannol.

Ein bwriad yw cwblhau ein gwaith mewn pryd i gyfrannu at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a’i datblygiad o’r maes hwn yn y dyfodol.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau