Biliau Aelod

Biliau Aelod

Bil Aelod yw Bil wedi’i gyflwyno gan Aelod unigol o’r Cynulliad.

Rhaid i unrhyw Aelod sy’n dymuno cynnig Bil arfaethedig wneud cais i gael eu cynnwys mewn balot a gynhelir gan y Llywydd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau hefyd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, yn cynnwys teitl arfaethedig y Bil a’i fwriad polisi.

Bydd modd i Aelod sy’n llwyddiannus yn y balot gyflwyno cynnig i geisio cymeradwyaeth y Cynulliad i gyflwyno Bil sy’n cyflawni’r cynigion a roddwyd yn y balot. Os derbynnir y cynnig, caiff yr Aelod naw i mis er mwyn cyflwyno’r Bil yn ffurfiol.

Ar ôl iddo gael ei gyflwyno, bydd Bil Aelod yn wynebu’r un broses graffu â Biliau eraill.

Math o fusnes: Arall

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/09/2016