Biliau Aelod
Bil Aelod yw Bil wedi’i gyflwyno gan Aelod unigol o’r
Cynulliad.
Rhaid i unrhyw Aelod sy’n dymuno cynnig Bil arfaethedig wneud cais i gael eu
cynnwys mewn balot a gynhelir gan y Llywydd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y balot,
rhaid i Aelodau hefyd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, yn cynnwys teitl
arfaethedig y Bil a’i fwriad polisi.
Bydd modd i Aelod sy’n llwyddiannus yn y balot gyflwyno cynnig i geisio
cymeradwyaeth y Cynulliad i gyflwyno Bil sy’n cyflawni’r cynigion a roddwyd yn
y balot. Os derbynnir y cynnig, caiff yr Aelod naw i mis er mwyn cyflwyno’r Bil
yn ffurfiol.
Ar ôl iddo gael ei gyflwyno, bydd Bil Aelod yn wynebu’r un broses graffu â
Biliau eraill.
Math o fusnes: Arall
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/09/2016