P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Whizz-Kidz, Cardiff Ambassador Club, ar ôl casglu 30 llofnod ar lein a 95 llofnod bapur = 125 llofnod

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl anabl yng Nghymru aros mwy na thair blynedd i gael yr addasiadau hanfodol i’w tai / y tai y mae arnynt eu hangen, ac i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod staff sy’n ymdrin ag achosion tai ag addasiadau wedi cael hyfforddiant digonol a’u bod yn atebol am sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae rhai o’r Llysgenhadon Ifanc yng nghlwb Whizz-Kidz Caerdydd wedi brwydo’n hir i gael eu hanghenion o ran tai wedi’u diwallu.  Mae llawer o anghysondeb wrth fynd i’r afael ag achosion ac mae un person ifanc yn y grŵp wedi methu byw gyda’r teulu ers dros saith mlynedd am nad oes tŷ addas ar gael. Credwn fod hyn yn annerbyniol, a gyda rhagor o gysondeb ac atebolrwydd wrth fynd i’r afael ag achosion a gwell hyfforddiant i staff, gallai’r sefyllfa wella.

 

Trosglwyddo deiseb yn y Senedd

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/09/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil yr ymateb cadarnhaol a gafwyd. Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/10/2016.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2016