NDM6093 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6093 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng
ngogledd Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth
Lloegr.
2. Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar
gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella
perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr
A55 i fynd i'r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain
galed mewn rhai ardaloedd;
(b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei
huwchraddio;
(c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn
teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru;
(d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro
Gogledd Cymru.
Dogfen Atodol
Gweledigaeth
ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2016
Angen Penderfyniad: 21 Medi 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS