P-05-715 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru
P-05-715 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan League Against Cruel Sports
ar ôl casglu 1,405 llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol
Maglau yw dolenni o wifrau tenau sydd wedi’u dylunio i
ddal ‘ysglyfaethwyr’. Er yr honnir iddynt gael eu defnyddio fel dyfeisiau
ffrwyno, mae eu dyluniad yn golygu eu bod yn achosi anafiadau difrifol i’r
anifeiliaid y maent yn eu dal. Mae’r anafiadau hyn yn cynnwys colli aelodau o’r
corff, tagu ac, yn aml, marwolaeth.
Yn ôl DEFRA, nid yw hyd at ddwy ran o dair o’r
anifeiliaid sy’n cael eu dal yn y maglau hyn hyd yn oed ymhlith y rhywogaethau
sy’n cael eu targedu. Gan amlaf, caiff maglau eu gosod i ddal llwynogod. Fodd
bynnag, mewn gwirionedd, maent yn dal moch daear, ceirw ac anifeiliaid anwes.
Yng Nghymru, caiff tua 370,000 o anifeiliaid eu dal mewn
maglau bob blwyddyn. Mae hynny’n fwy na 1,000 y dydd.
Yn 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru God Ymarfer Gorau
ar ddefnyddio maglau. Fodd bynnag, mae cydymffurfio â’r Cod yn wirfoddol, ac
nid oes unrhyw gamau gwirio ar waith na chosbau i’r rhai nad ydynt yn
cydymffurfio ag ef. Mae hyd yn oed magl sy’n cydymffurfio â’r Cod yn ddyfais
fras sydd ddim yn gwahaniaethu rhwng rhywogaethau ac sy’n fwy tebygol o achosi
anaf neu farwolaeth i anifail nag ei ffrwyno.
Mae gan y Cynulliad y pŵer i roi terfyn ar yr
ymarfer hwn, ac arwain y ffordd o ran lles anifeiliaid yn y DU, drwy wahardd
cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru.
Trosglwyddo deiseb yn y
Senedd
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/11/2017
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau
fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y
deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y mater wedi bod yn destun sylw manwl
yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a
bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor hwnnw.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/09/2016.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Gwyr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2016
Dogfennau