Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ym mis Gorffennaf 2016, cafodd y
Cynulliad ddadl ynghylch a ddylai newid ei enw. Cytunwyd y dylai enw’r
Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.
Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn rhwng 8
Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. Mae’r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben.
Datganolwyd y pŵer i’r
Cynulliad newid ei enw yn Neddf Cymru 2017. Mae’r Ddeddf yn gosod fframwaith
cyfansoddiadol newydd i Gymru. Y Ddeddf hon yw'r diweddaraf ymhlith nifer o
newidiadau i bwerau'r Cynulliad ers ei sefydlu. Mae'r Cynulliad bellach yn
gweithio fel unrhyw Senedd arall – gall ddeddfu yng Nghymru a chytuno ar drethi
yng Nghymru.
Mar rhagor o wybodaeth ynghylch y
newidiadau i swyddogaeth a chyfrifoldebau'r Cynulliad ar gael yn nogfen yr
ymgynghoriad.
Ymgynghoriadau
Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad
ymgynghoriad â'r cyhoedd rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. Roedd 61 y cant
o'r rhai a ymatebodd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei
enw.
Cafwyd cyfanswm o 2,821 o
ymatebion i'r arolwg gan bobl o bob oedran o bob cwr o Gymru.
Yn ôl yr ymgynghoriad, yr enw
gorau ar gyfer cyfleu rôl a chyfrifoldeb y sefydliad ym marn y rhai a ymatebodd
oedd: Senedd Cymru/Welsh Parliament
Rydym wedi cytuno y dylem, cyn diwedd y Cynulliad hwn, ddeddfu i newid
enw'r sefydliad i Senedd Cymru/Welsh Parliament. Byddai'r Aelodau yn cael eu
galw yn Aelodau o Senedd Cymru (ASC)/
Welsh Parliament Members (WPM).
Mae’r Comisiwn yn bwriadu
cyhoeddi’r ddeddfwriaeth i roi’r diwygiadau hynny ar waith yn 2018.
Gallwch gael y diweddaraf
am waith y Comisiwn drwy ein dilyn ar Twitter yn @CynulliadCymru.
Math o fusnes:
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/12/2016
Ymgynghoriadau
- A ddylid newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru? (Wedi ei gyflawni)