Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Gorffennaf 2016, cafodd y Cynulliad ddadl ynghylch a ddylai newid ei enw. Cytunwyd y dylai enw’r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol. Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. Mae’r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben.

 

Datganolwyd y pŵer i’r Cynulliad newid ei enw yn Neddf Cymru 2017. Mae’r Ddeddf yn gosod fframwaith cyfansoddiadol newydd i Gymru. Y Ddeddf hon yw'r diweddaraf ymhlith nifer o newidiadau i bwerau'r Cynulliad ers ei sefydlu. Mae'r Cynulliad bellach yn gweithio fel unrhyw Senedd arall – gall ddeddfu yng Nghymru a chytuno ar drethi yng Nghymru.    

 

Mar rhagor o wybodaeth ynghylch y newidiadau i swyddogaeth a chyfrifoldebau'r Cynulliad ar gael yn nogfen yr ymgynghoriad.

 

Ymgynghoriadau

 

Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad â'r cyhoedd rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. Roedd 61 y cant o'r rhai a ymatebodd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.

Cafwyd cyfanswm o 2,821 o ymatebion i'r arolwg gan bobl o bob oedran o bob cwr o Gymru.

Yn ôl yr ymgynghoriad, yr enw gorau ar gyfer cyfleu rôl a chyfrifoldeb y sefydliad ym marn y rhai a ymatebodd oedd: Senedd Cymru/Welsh Parliament  Rydym wedi cytuno y dylem, cyn diwedd y Cynulliad hwn, ddeddfu i newid enw'r sefydliad i Senedd Cymru/Welsh Parliament. Byddai'r Aelodau yn cael eu galw  yn Aelodau o Senedd Cymru (ASC)/ Welsh Parliament Members (WPM).

Mae’r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi’r ddeddfwriaeth i roi’r diwygiadau hynny ar waith yn 2018.

Gallwch gael y diweddaraf am waith y Comisiwn drwy ein dilyn ar Twitter yn @CynulliadCymru.

 

Math o fusnes:

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/12/2016

Ymgynghoriadau