Goblygiadau'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru

Goblygiadau'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru

 

 

Wedi'i alw'n flaenorol yn Fil y Diddymu Mawr, roedd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (PDF, 303KB) yn Fil Llywodraeth y DU a oedd yn anelu at ddiddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, trosi cyfraith bresennol yr UE yn gyfraith ddomestig y DU a rhoi pŵer i weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn, Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal from the European Union (PDF, 379KB), ar 30 Mawrth 2017.

 

Drwy gydol y broses, gwnaeth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymgynghori gyda’i gilydd, cyn cynhyrchu allbwn ar wahân.

 

Tystiolaeth gychwynnol gan y cyhoedd

 

Cynhaliodd y ddau Bwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ar y pwnc hwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgorau y ffordd yr oedd y Bil yn ymdrin â'r canlynol:

  • yr ymdriniaeth o ddatganoli;
  • dirprwyo pwerau a'u rheoli; a'r
  • prosesau craffu a rôl y deddfwrfeydd datganoledig.

 

Dechreuodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol weithio ar y Bil ym mis Mawrth 2017 gyda'r bwriad o sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall y goblygiadau i Gymru ac yn gweithredu arnynt.

 

Dilynodd hyn ystyriaeth o 13 o gyflwyniadau ysgrifenedig a dau wrandawiad pwyllgor.

 

Ym mis Mehefin 2017, nododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r Bil fel rhan o'i graffu ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol adroddiad ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr ym mis Mehefin 2017. Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Derbyniodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) fel y'i ailenwyd ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Gorffennaf 2017.

 

Yn dilyn hyn, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol alwad am ragor o dystiolaeth ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2017 a chynhaliodd gynhadledd i randdeiliaid i drafod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar 18 Medi 2017.

 

Ymunodd rhanddeiliaid Cymreig ac arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol blaenllaw o bob cwr o'r DU â'r Pwyllgorau i archwilio goblygiadau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i Gymru.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Ar 12 Medi 2017, gosododd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r Bil. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Memorandwm i'w ystyried gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 19 Medi 2017.

 

Adroddiadau

 

Ar ôl ymgynghori ar y cyd ar y Bil, cynhyrchodd y ddau Bwyllgor allbynnau ar wahân:

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei  adroddiad interim ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 15 Rhagfyr 2017.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 18 Rhagfyr 2017.

 

Argymhellodd y ddau Bwyllgor fod y Cynulliad yn atal ei gydsyniad ar gyfer y Bil ar ei ffurf bresennol.

 

Ym mis Hydref 2017, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol at holl (PDF, 156KB) ASau Cymru gyda chwe amcan (PDF, 767KB) ar gyfer newid Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ynghyd â'r amcanion hyn, anfonodd y Pwyllgor welliannau a awgrymwyd (PDF, 83KB) i gyflawni ei chwe amcan.

 

Cafodd y gwelliannau a awgrymwyd gan y Pwyllgor eu cyflwyno gan Stephen Kinnock AS, ond ni chawsant eu derbyn yn ystod cyfnod y Pwyllgor. Pasiodd y bil drwy Dŷ'r Cyffredin ar 17 Ionawr 2018 cyn mynd i Dŷ'r Arglwyddi.

 

Ysgrifennodd (PDF, 176KB) y Pwyllgor at Aelodau Tŷ'r Arglwyddi i dynnu eu sylw at amcanion y Pwyllgor. Anfonwyd y llythyrau hyn ar 19 Chwefror 2018 cyn yr ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi.

 

Ar 23 Mawrth 2018, anfonodd y Pwyllgor ohebiaeth (PDF, 155KB)  ychwanegol at aelodau Tŷr Arglwyddi ynghylch y gwelliant i gymal 11 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

 

Ar 16 Ebrill 2018, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gan ganolbwyntio ar Fil yr UE (Ymadael) ac ystod o faterion sy’n ymwneud â Brexit.

 

Ar 30 Ebrill 2018, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth â Robin Walker AS a Chloe Smith AS i drafod Bil yr UE (Ymadael), perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop yn y dyfodol a goblygiadau’r polisi masnach i Gymru.

 

Ar 14 Mai 2018, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar oblygiadau polisi masnach y DU a Bil yr UE (Ymadael).

 

Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

 

Ar 7 Mawrth 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) (PDF, 181KB). Bwriad y Bil yw diogelu cyfraith yr UE sy'n ymwneud â phynciau sydd wedi'u datganoli i Gymru ar ôl i'r DU adael yr UE.

 

Ar 5 Mawrth 2018, bu'r Pwyllgor yn trafod y Bil yn ystod sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

 

Cynhaliwyd dadl Cyfnod 1 ar y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2018.

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 y Bil yn y Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan ar 20 Mawrth 2018.

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 3 a 4 y Bil yn y Cyfarfod Llawn 21 Mawrth 2018 cyn pasio’r Cynulliad ar yr un diwrnod.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol

 

Ar 27 Ebrill 2018, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF, 402KB) (Memorandwm rhif 2) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i’r Bil yn dilyn cytundeb (PDF, 125KB) rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil yr UE (Ymadael).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - Y Cynnydd o ran cyflawni ein chwe amcan ar 14 Mai 2018.

 

Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Mae’r Pwyllgor yn gallu gweld bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud ac rydym yn derbyn bod angen i bob ochr fod yn hyblyg wrth drafod, gan gyfaddawdu i ddod i setliad y mae pawb yn cytuno arno.”

 

“Fodd bynnag, ni chafodd amcanion y Pwyllgor eu cyflawni’n llwyr ac rydym yn parhau i fod yn arbennig o bryderus y gallai Senedd y Deyrnas Unedig gyfyngu ar allu’r Cynulliad i basio deddfau mewn meysydd polisi datganoledig fel amaethyddiaeth, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle mae’r Cynulliad wedi gwrthod caniatâd i gyfyngiadau o’r fath gael eu gosod.”

 

Ar 15 Mai 2018, derbyniwyd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr UE (Ymadael) yn y Cyfarfod Llawn, yn rhoi cydsyniad y Cynulliad i’r Bil.

 

Cafodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mehefin 2018, gan ddod yn Ddeddf.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/09/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau