Ymchwiliad i ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru
Yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr
Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ynghylch y polisïau a'r cyllid
a fydd yn cefnogi'r sector amaethyddiaeth, y gwaith o reoli'r tir yng Nghymru
a'n cymunedau gwledig yn cael eu gwneud yng Nghymru yn y dyfodol.
Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig yn awyddus i drafod yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r polisïau
Cymreig newydd y byddai angen eu creu i ddisodli'r polisïau a bennir ar hyn o
bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Byddai hyn yn llywio gwaith y Pwyllgor a'r
ymagwedd y byddwn yn ei mabwysiadu o ran datblygu'r egwyddorion a fydd yn sail
i'r polisïau newydd.
I ddechrau'r drafodaeth, dyma rai cwestiynau y
byddwch efallai am ymateb iddynt:
- Pa ganlyniadau sylfaenol yr hoffem eu
gweld yn deillio o bolisïau ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu
gwledig?
- Pa wersi y gallwn eu dysgu o'r
polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd a pholisïau'r gorffennol? Beth am y
polisïau sydd ar waith mewn mannau eraill?
- A ddylai Cymru ddatblygu ei pholisïau
ei hun ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig, neu a
ddylai'r wlad fod yn rhan o fframwaith polisi ac ariannol ehangach a gaiff
ei roi ar waith ledled y DU?
Datganiad
ar ymchwiliad y Pwyllgor i ddyfodol polisïau gwledig ac amaethyddol yng Nghymru
Ar 8 Tachwedd 2016, gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad
yn y Cyfarfod Llawn (PDF 132KB) ar ymchwiliad y Pwyllgor.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Dyfodol
rheoli tir yng Nghymru (PDF 2MB) ar 24 Mawrth 2017.
Ymateb
Llywodraeth Cymru oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig (PDF 201KB)
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/08/2016
Angen Penderfyniad: 28 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dogfennau
- Datganiad gan Cadeirydd y Pwyllgor - 8 Tachwedd 2016
PDF 132 KB
- Mae'r Pwyllgor wedi ymateb i ymgynghoriad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar adroddiad (Saesneg yn unig)
PDF 150 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - 10 Gorffennaf 2018
PDF 35 KB
- Gohebiaeth gan George Eustice AS (Saesneg yn unig) - 21 Mawrth 2018
PDF 142 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at George Eustice AS (Saesneg yn unig) - 24 Ionawr 2017
PDF 449 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at David Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig (Saesneg yn unig) - 28 Mawrth 2017
PDF 576 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus Andrea Leadsom AS, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Saesneg yn unig) - 29 Mawrth 2017
PDF 128 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus David Davies AS, Yr Adran Ymadael â'r UE (Saesneg yn unig) - 29 Mawrth 2017
PDF 128 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus Liam Fox AS, Yr Adran Masnach Ryngwladol (Saesneg yn unig) - 29 Mawrth 2017
PDF 128 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Saesneg yn unig) - 20 Mehefin 2017
PDF 1 MB
- Gohebiaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (Saesneg yn unig) - 11 Mai 2017
PDF 609 KB
- Gohebiaeth gan George Eustice AS, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), (Saesneg yn unig) - 22 Rhagfyr 2016
PDF 56 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus Andrea Leadsom AS, Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Saesneg yn unig) - 8 Tachwedd 2016
PDF 111 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)