Ymchwiliad i ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru

Ymchwiliad i ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru

Inquiry_Stage_05-w

Yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ynghylch y polisïau a'r cyllid a fydd yn cefnogi'r sector amaethyddiaeth, y gwaith o reoli'r tir yng Nghymru a'n cymunedau gwledig yn cael eu gwneud yng Nghymru yn y dyfodol.

Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn awyddus i drafod yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r polisïau Cymreig newydd y byddai angen eu creu i ddisodli'r polisïau a bennir ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Byddai hyn yn llywio gwaith y Pwyllgor a'r ymagwedd y byddwn yn ei mabwysiadu o ran datblygu'r egwyddorion a fydd yn sail i'r polisïau newydd.

I ddechrau'r drafodaeth, dyma rai cwestiynau y byddwch efallai am ymateb iddynt:

  • Pa ganlyniadau sylfaenol yr hoffem eu gweld yn deillio o bolisïau ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig?
  • Pa wersi y gallwn eu dysgu o'r polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd a pholisïau'r gorffennol? Beth am y polisïau sydd ar waith mewn mannau eraill?
  • A ddylai Cymru ddatblygu ei pholisïau ei hun ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig, neu a ddylai'r wlad fod yn rhan o fframwaith polisi ac ariannol ehangach a gaiff ei roi ar waith ledled y DU?

Datganiad ar ymchwiliad y Pwyllgor i ddyfodol polisïau gwledig ac amaethyddol yng Nghymru

Ar 8 Tachwedd 2016, gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn (PDF 132KB) ar ymchwiliad y Pwyllgor.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Dyfodol rheoli tir yng Nghymru (PDF 2MB) ar 24 Mawrth 2017.

Ymateb Llywodraeth Cymru oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (PDF 201KB)

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/08/2016

Angen Penderfyniad: 28 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Dogfennau

Ymgynghoriadau