Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil i’r Pwyllgor Cyllid.

 

Gwybodaeth am y Bil

Roedd y’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno “Treth Trafodiadau Tir” (LTT), a fyddai’n disodli Treth Dir Treth Stamp y DU yng Nghymru o fis Ebrill 2018 a mesurau i fynd i’r afael ag osgoi trethi datganoledig. Roedd y’r Bil yn nodi:

 

  • egwyddorion allweddol LTT, megis y mathau o drafodiadau a fyddai yn denu tâl i LTT a’r person sy’n atebol i dalu LTT;
  • y weithdrefn ar gyfer pennu cyfraddau a bandiau trethi;
  • sut y câi y dreth ei chyfrifo a pha ryddhadau allai fod yn gymwys;
  • mesurau penodol i fynd i’r afael ag osgoi trethi datganoledig;
  • cymhwyso’r Bil mewn perthynas â lesoedd;
  • y darpariaethau penodol sy’n gymwys i amrywiaeth o bersonau a chyrff mewn perthynas ag LTT;
  • y ddarpariaeth ar gyfer llenwi ffurflen trafodiadau tir ac ar gyfer talu’r dreth; a
  • dyletswyddau ar drethdalwyr i wneud taliadau a thalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

Daeth Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 24 Mai 2017.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

 

Cyflwyno'r Bil: 12 Medi 2016

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd: 12 Medi 2016

 

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): 12 Medi 2016 (PDF 142 KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil:

13 Medi 2016 (PDF, 64KB)

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): 13 Medi 2016

 

Datganiad ar fwriad polisi’r Bil

 

Geirfa’r gyfraith (PDF, 208KB)

 

Geirfa dechnegol (PDF, 185KB)

 

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Pennu cyfraddau a bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir: 15 Medi 2016 (PDF, 139KB)

 

 

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 21 Hydref 2016.

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bu’r Y Pwyllgor Cyllid yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod ac Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

15 Medi 2016

 

 

 

Ystyried y ffordd o fynd ati i wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (preifat)

 

 

21 Medi 2016

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

21 Medi 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 21 Medi 2016

29 Medi 2016

 

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

29 Medi 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 29 Medi 2016

13 Hydref 2016

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

 

13 Hydref 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 13 Hydref 2016

3 Tachwedd 2016

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

3 Tachwedd 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 3 Tachwedd 2016

Gwybodaeth ychwanegol

Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd – 16 Medi 2016 (PDF, 399KB)

 

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - 28 Medi 2016  (PDF, 139KB)

 

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i Alistair Brown, Llywodraeth yr Alban - 04 Hydref 2016 (PDF, 165KB)

 

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - 5 Hydref 2016 (PDF, 124KB)

 

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - 11 Hydref 2016 (PDF, 124KB)

 

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y diweddaraf am y Dreth Trafodiadau Tir: cyfraddau uwch ar gyfer prynu eiddo preswyl ychwanegol - 14 Hydref 2016 (PDF, 185KB)

 

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Cyllid – 2 Tachwedd 2016 (PDF, 483 KB)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod ac Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

3 Hydref 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Aelod sy’n gyfrifol)

3 Hydref 2016, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 3 Hydref 2016

 

Yn dilyn y cyfarfod ar 3 Hydref 2016:

 

Adroddiadau’r Pwyllgorau

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid – Rhagfyr 2016 (PDF, 1MB)

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid - 10 Ionawr 2017 (PDF, 177KB)

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid - 23 Ionawr 2017 (PDF, 513KB)

Llythyr ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyllid a Thollau EM ar drawsnewid trethi datganoledig Cymru – 26 Ionawr 2017 (Saesneg yn unig) (PDF, 156KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Cyllid - 20 Mawrth 2017 (PDF, 50KB)

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol [PDF, 919KB]

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 10 Ionawr 2017 [PDF, 206KB]

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Ionawr 2017.

 

Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Ionawr 2017.

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Cytunodd y Pwyllgor Cyllid ar 19 Ionawr 2017 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2: Adrannau 2-13; Atodlen 2; Adrannau 14-17; Atodlen 3; Adran 18; Atodlen 4; Adrannau 19-30; Atodlenni 8-21; Adrannau 31-32; Atodlen 5; Adrannau 33-40; Atodlen 6; Adran 41; Atodlen 7; Adrannau 42-75; Atodlen 22; Adrannau 76-80; Adran 1; Atodlen 1; Teitl hir.

 

Cynhaliwyd trafodaeth Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ddydd Iau 16 Chwefror 2017.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 11 Ionawr 2017 (PDF, 130 KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 11 Ionawr 2017 (PDF, 282KB)

Egluro gwelliannau 17 a 18 - 18 Ionawr 2017 (PDF, 290KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 26 Ionawr 2017 (PDF, 208KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 26 Ionawr 2017 (PDF, 514KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 9 Chwefror 2017 (PDF, 148KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli (Fersiwn 2) - 13 Chwefror 2017 (PDF, 317KB)

Grwpio Gwelliannau – 13 Chwefror 2017 (PDF, 73KB)

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - 15 Chwefror 2017 (PDF, 71KB)

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2 (PDF, 1,282KB)
(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 201KB)

Memorandwm Esboniadol, fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2 (PDF, 1MB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Nick Ramsay AC - 4 Mawrth 2017 (Saesneg yn unig) (PDF, 756KB)

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 17 Chwefror 2017.

 

Ar ddydd Mawrth 21 Mawrth 2017, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai dyma fydd trefn trafodion Cyfnod 3: Adrannau 2-13; Atodlen 2; Adrannau 14-17; Atodlen 3; Adran 18; Atodlen 4; Adrannau 19-24; Atodlen 5; Adrannau 25-30; Atodlenni 9-22; Adrannau 31-32; Atodlen 6; Adrannau 33-41; Atodlen 7; Adran 42; Atodlen 8; Adrannau 43-76; Atodlen 23; Adrannau 77-81; Adran 1; Atodlen 1; Teitl Hir.

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017. Barnwyd bod holl adrannau ac Atodlenni’r Bill wedi’u cytuno.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 16 Mawrth 2017 (PDF, 128KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 16 Mawrth 2017 (PDF, 194KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 20 Mawrth 2017 (PDF, 69KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 21 Mawrth 2017 (PDF, 85KB)

Nodyn technegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – gwelliannau Cyfnod 3 – 23 Mawrth 2017 (PDF, 193KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli (Fersiwn 2) - 23 Mawrth 2017 (PDF, 137KB)

Grwpio Gwelliannau – 23 Mawrth 2017 (PDF, 71KB)

 

Bil fel y’i diwygiwyd

 

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 3 (PDF, 943KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen). Sylwer y gallai’r fersiwn hon fod yn destun newidiadau nad ydynt yn rhai o sylwedd/cywiriadau printio.

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF, 198KB)

 

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 4 Ebrill 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Datganiad y Llywydd - Adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 - Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – 4 Ebrill 2017 (PDF, 127KB)

 

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), fel y'i pasiwyd (PDF, 1 MB)

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y'i pasiwyd (PDF, 247KB)

 

Ar ôl Cyfnod 4

Ysgrifenodd y Twrnai Cyffredinol (Saesneg yn unig) (PDF, 37KB) ac y Cwnsler Cyffredinol (Saesneg yn unig) (PDF, 176KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF, 42KB) ar 24 Mai 2017.

 

 

Gwybodaeth gyswllt

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:
Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

Ebost: deddfwriaeth@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/08/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau