Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf

Yn dilyn cyhoeddi, ar 28 Mai 2015, adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf, trafododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad sut mae Llywodraeth Cymru yn rheoli’r broses o gyflwyno gwasanaethau band eang y genhedlaeth nesaf.

Cyhoeddwyd Adroddiad (PDF 365KB) y Pwyllgor hwnnw ym mis Tachwedd 2015 a gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 149KB) ar 25 Ionawr 2016.

Argymhellodd y Pwyllgor blaenorol yn ei Adroddiad Etifeddiaeth y dylai ei bwyllgor olynol ystyried clywed rhagor o dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a BT yn ystod hydref 2016 i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o ran cyflwyno contract Cyflymu Cymru.

Bu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2016, gan benderfynu peidio â gofyn am ddiweddariad pellach oherwydd bwriad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymchwiliad i faterion tebyg.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau