P-05-703 Cynnig i ohirio'r Cyfyngiadau ar Bysgota yn Afonydd Cymru.
P-05-703 Cynnig i ohirio'r Cyfyngiadau ar Bysgota yn Afonydd Cymru.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Alex Young ar ôl casglu 689 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynnig dal a
rhyddhau 10 mlynedd ar gyfer yr holl eogiaid ar afonydd Cymru yn cael ei ohirio
ar unwaith, er mwyn i asesiad effaith llawn a phriodol gael ei wneud o
effeithiau ar fusnesau lleol a'r economi twristiaeth, ar adeg pan mae economi
Cymru eisoes yn dioddef oherwydd y dirywiad mewn cynhyrchu dur. Rydym yn credu
bod y mater hwn yn gofyn am sylw brys.
Yr wyf yn gadeirydd Clwb
Pysgota Abergwili, a leolir yng Nghaerfyrddin ac rwy'n poeni am gynigion
diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru i osod polisi dal a rhyddhau yn unig deng
mlynedd ar gyfer eog ar holl afonydd Cymru, heb unrhyw dystiolaeth wyddonol bod
pysgotwyr pleser yn gyfrifol am y dirywiad mewn stoc eogiaid mudol.
Mae canran uchel o aelodau'n
clwb yn teithio i mewn i Gymru gan ddod â refeniw mawr ei angen i'r economi
leol. Isod fe welwch ddarnau o adroddiad technegol Cyfoeth Naturiol Cymru ei
hun sy'n tynnu sylw at y colledion a allai ddigwydd, yn dilyn pysgotwyr yn
peidio â dod i Gymru, fel y disgwylir, os bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwrw
ymlaen â rhaglen dal a rhyddhau eog 10 mlynedd.
Gwybodaeth ychwanegol
Isod ceir darnau o
'ymgynghoriad' diweddar gyda physgotwyr, yng Ngorllewin Cymru: -
NRW B B 40.15 Atodiad 2 ADRODDIAD TECHNEGOL:
OPSIYNAU RHEOLI I FYND I'R AFAEL A'R DIRYWIAD MEWN STOCIAU EOG A RHAI SEWIN YNG
NGHYMRU
7. Mae eogiaid a sewin yn rhywogaethau eiconig
a phwysig yn ein hafonydd. Maent yn cefnogi pysgodfeydd hamdden sy'n dod â budd
economaidd (mwy na £74 miliwn o wariant blynyddol yng Nghymru, gan gefnogi tua
1,500 o swyddi yng Nghymru a £32 miliwn o incwm aelwydydd, Mawle a Peirson,
2009), yn aml i gymunedau gwledig, ac yn cael eu cydnabod yn eang fel
dangosyddion ansawdd amgylcheddol da. Mae eog yn cefnogi dynodiadau chwe afon
sydd wedi'u dynodi yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Y rhain yw'r afonydd ACA,
fel a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/
EEC) yng Nghymru. Mae'r eog hefyd yn nodwedd o safle Morol Ewropeaidd Aber Afon
Hafren (ACA, a safle a ddynodwyd hefyd yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig o dan y
Gyfarwyddeb Adar a safle Ramsar). 8. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu amcanion
ar gyfer NRW i gyfrannu at amcanion ar gyfer rheoli pysgodfeydd dŵr croyw,
yn fras trwy hyrwyddo cadwraeth a chynnal yr amrywiaeth o bysgod mudol a dŵr
croyw, a thrwy wella'r cyfraniad y mae pysgodfeydd mudol a dŵr croyw yn ei
wneud i'r economi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anghysbell ac mewn
ardaloedd gyda lefelau isel o incwm. Mae gan NRW hefyd ddyletswyddau statudol
ar gyfer pysgodfeydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (1995), a rhwymedigaethau fel y
nodir yng nghyfrifoldebau Llywodraeth y DU i NASCO (Sefydliad Cadwraeth Gogledd
yr Iwerydd) y mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi'i arwyddo.
Ar ben hynny, mae'r ateb i gais
Rhyddid Gwybodaeth diweddar –cyf: ATI - 09971a - wedi'i nodi isod: -
Fel rhan o unrhyw achos dros
fesurau rheoli pysgota newydd arfaethedig mae'n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru
ystyried ffactorau economaidd-gymdeithasol. Gallaf gadarnhau nad yw hyn wedi
digwydd eto, felly mae rheoliad 12.4(a) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
2004 yn gymwys.
Dim gwybodaeth yn cael ei
chadw. Nid oes gennym ddyddiad pryd y disgwylir y bydd hyn yn cael ei gwblhau -
fodd bynnag, rydym yn gobeithio ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Statws
Mae'r ddeiseb hon wedi'i chwblhau
gan y Pwyllgor Deisebau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2016
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
Llanelli
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016