Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyflwyno ei amcangyfrif blynyddol o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i’r Senedd, fel sy’n ofynnol gan Baragraff 15, Atodlen 1 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. O dan Reol Sefydlog 20.24, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar ei amcangyfrif, a gosod adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, gerbron y Senedd yn dilyn ymgynghori ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Gellir gweld yr holl wybodaeth o ran gwaith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar Amcangyfrif Blynyddol o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru isod:

 

Craffu ar Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22

Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2020-2021

Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-2020

Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2018-2019

Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2017-2018

 

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2016