Blaenraglen Waith - y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Blaenraglen Waith - y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Mae blaenraglen waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

 

 

Gwaith gwaddol y Bumed Senedd:

 

Tua diwedd y Bumed Senedd bydd trafodaethau’r Pwyllgor ynglŷn â’r flaenraglen waith yn ystyried y gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor, a chaiff y Pwyllgor wneud argymhellion i unrhyw bwyllgorau sydd â chylch gwaith tebyg yn y Chweched Senedd.

 

 

Gwaith gwaddol: casglu tystiolaeth:

 

I helpu i lywio ei waith gwaddol ysgrifennodd (PDF 241 KB) y Pwyllgor at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 17 Rhagfyr 2020, i gael diweddariad ar y cynnydd o ran gweithredu rhai o'r prif argymhellion yn adroddiadau’r Pwyllgor i'r bumed Senedd.

 

Ymatebodd (PDF 810KB) y Gweinidog  ar 29 Ionawr 2021.

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig hefyd gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi ar y dudalen hon.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio ei waith, sydd i'w gweld yn y tabl isod:

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad

Trawsgrifiad

Fideo

Newid Hinsawdd

25 Chwefror 2021

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

Adfer natur

 

Allforion bwyd

4 Mawrth 2021

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

Dyframaethu a physgodfeydd

11 Mawrth 2021

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

18 Mawrth 2021

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad Gwaddol y Bumed Senedd (PDF 587KB) ar 29 Mawrth 2021.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/06/2016

Dogfennau