Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Blaenraglen Waith - y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Mae blaenraglen waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn ystod yr wythnosau a'r
misoedd i ddod.
Bydd unrhyw ddogfennau a
gyhoeddwyd eisoes yn nodi bwriadau'r Pwyllgor adeg eu cyhoeddi. Fodd bynnag,
mae'n bosibl y bydd y rhaglen yn newid ar unrhyw adeg er mwyn ymateb i
ddigwyddiadau allanol.
Gweld
blaenraglen waith – 2021 (PDF 61KB)
Mae'r Pwyllgor yn edrych
ar effaith
y sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys
myfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch.
Ar 6 Gorffennaf 2020, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer
trafodion Cyfnod 1 ar 9 Mehefin 2020. Gellir gweld rhagor o fanylion ar dudalen
we'r
Bil.
Wrth i amser basio, bydd y Pwyllgor yn adolygu ei ymchwiliadau agored a'i waith
parhaus, sef yr holl ddarnau o waith sydd wedi'u gohirio dros dro.
Mae'r Pwyllgor yn
rhannol drwy’r gwaith isod, a gellir cael y wybodaeth ddiweddaraf amdano drwy’r
lincs a ganlyn:
- Hawliau plant yng Nghymru;
- Ymchwiliad i Addysg Heblaw yn yr Ysgol;
- Gwella ysgolion a chodi safonau;
- Gwaith craffu dilynol ar ei adroddiad a’i argymhellion yn
2017 ar Iechyd Meddwl Amenedigol; a
- Gwaith craffu dilynol ar ei adroddiad
‘Cadernid Meddwl’ ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl plant a phobl
ifanc, yn 2018.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/06/2016
Dogfennau