P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach

P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cai Ellerton ar ôl casglu 16 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Rwyf yn ysgrifennu i ofyn ichi ystyried fy neiseb.  Fel mae rhieni, athrawon a myfyrwyr/disgyblion yn gwybod, mae ysgolion cynradd yn dechrau am 08:45 ac mae ysgolion uwchradd yn dechrau am 08:30. Hoffwn i ysgolion ddechrau awr yn hwyrach yn y bore, sy'n golygu y byddai ysgolion cynradd yn dechrau am 09:45 ac ysgolion uwchradd yn dechrau am am 09:30.

Mae prawf yn Lloegr wedi dangos bod myfyrwyr yn sicrhau gwell canlyniadau arholiad os yw ysgol yn dechrau awr yn hwyrach.

 

Diolch ichi am ystyried y cais hwn.

Cai Ellerton, 13.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn cau'r ddeiseb gan fod hyn yn fater o gyfrifoldeb i ysgolion unigol ac nid oes tystiolaeth ddigonol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad gan y Pwyllgor Deisebau; a diolch i'r deisebydd am i ymgysylltiad â'r broses ddeisebau a dymuno'r gorau iddo yn y dyfodol.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2016