P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhian Cecil ar ôl casglu 1,195 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Mae iechyd wedi'i ddatganoli'n llwyr i Gymru. Gofynnwn i'r Cynulliad ac i Mark Drakeford newid yr ystod oedran fel bod pob plentyn yn cael y brechlyn.

Mae pob plentyn mewn perygl o ddal yr haint ofnadwy hwn, ac eto dim ond babanod 2 i 5 mis oed y mae Llywodraeth Cymru yn eu brechu. Mae angen cyflwyno rhaglen i frechu pob plentyn hyd at 11 oed o leiaf. Gall heintiau meningococaidd fod yn ddifrifol iawn, gan achosi LLID YR YMENNYDD, SEPTISEMIA A MARWOLAETH

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2016