Bil Cymru Llywodraeth y DU

Bil Cymru Llywodraeth y DU

Wedi'i gwblhau

Cyhoeddwyd Bil Cymru gan Lywodraeth y DU ar 7 Mehefin 2016. Prif bwrpas y Bil oedd diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn sicrhau bod proses ddeddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn symud tuag at fodel cadw pwerau. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Bil ar ffurf Deddf Cymru 2017 ar 31 Ionawr 2017.

Cytunodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* i wneud gwaith craffu ar Fil Cymru, i drafod unrhyw faterion oedd yn berthnasol i'r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Mehefin 2016, ac i gyflwyno adroddiad arnynt. Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor y graddau: 

 

(i)           roedd y Bil Cymru drafft wedi'i ddiwygio yn dilyn gwaith craffu cyn deddfu i gynnwys y canlynol: 

  • cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd neu ei gyfnewid am brawf sy'n seiliedig ar briodoldeb;
  • cael system i’w gwneud yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion y Goron, sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998;
  • lleihau'n sylweddol nifer a graddfa'r cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol fel sy'n addas i ddeddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol; 
  • cael awdurdodaeth ar wahân lle byddai Deddfau Cymru yn gymwys i Gymru yn unig;  
  • cael system lle mae Deddfau Cymreig yn addasu cyfraith droseddol a phreifat fel y bo'n briodol ar gyfer gorfodaeth resymol; a
  • chael ymrwymiad clir y bydd cydgrynhoi dwyieithog yn cael ei wneud yn ystod y Senedd bresennol.  

 

(ii)          y mae’r model cadw pwerau arfaethedig o gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac yn ymarferol, ac yn darparu fframwaith cryf i alluogi'r Cynulliad i ddeddfu o'i fewn.

 

Cyflwynodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad adroddiad (PDF, 683KB) ar Fil Cymru drafft Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2015.   

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ac i glywed eich barn.

 

Ar 11 Gorffennaf, lansiwyd y Pwyllgor dadl fyw ar Loomio. Roedd y platfform yma yn gyfle i randdeiliaid a’r Pwyllgor ddod at ei gilydd i drafod, dadlau a rhannu syniadau ar y Bil wrth iddo fynd drwy Senedd y DU.

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 1MB) ym mis Hydref 2016. Mae llyfryn atodol (PDF, 11MB) yn cynnwys yr holl atebion i’r ymgynghoriad ar gael hefyd. Gallwch hefyd ddarllen fersiwn cryno o’n hadroddiad.

 

Cyfarfu’r Pwyllgor â Phwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi ar 12 Hydref i drafod y Bil.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar ddydd Mercher 19 Hydref. Gallwch wylio’r ddadl eto ar Senedd.tv a gallwch hefyd ddarllen Cofnod y Trafodion.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru [PDF, 346KB] a datganiad ysgrifenedig [PDF, 120KB]  ategol ddydd Llun 21 Tachwedd 2016. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 22 Tachwedd 2016, gyda therfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 12 Ionawr 2017.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 185KB) ar 13 Rhagfyr 2016.

 

Wedi hynny cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol [PDF, 169KB] a datganiad ysgrifenedig [PDF, 242KB] ar 10 Ionawr 2017 a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig [PDF, 30KB] ar 13 Ionawr 2017 a dynnwyd yn ôl ac a ailgyflwynwyd [PDF, 174KB] ar 16 Ionawr 2017. Ni chafodd y memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol hyn ei drafod gan y Pwyllgor.

 

Ystyriodd y Cynulliad y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017.

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Bil ar 31 Ionawr 2017.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau