P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands
P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rhodri James ar ôl casglu 27 llofnod ar lein
Geiriad y ddeiseb
Dengys ystadegyn a
gyhoeddwyd yn ddiweddar mai cylchfan Cross Hands yw'r 3ydd cylchfan mwyaf
peryglus yng Nghymru o ran damweiniau traffig a phobl yn cael eu hanafu. Bydd
unrhyw un sy'n byw yn yr ardal neu sy'n teithio'n rheolaidd ynddi'n gwybod pa
mor beryglus yw'r gylchfan erbyn hyn. Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb, er mwyn
pwyso am ddatrysiad.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r gwrthwynebwyr yn
dadlau y byddai goleuadau traffig yn arafu traffig ar ffordd sydd eisoes yn
brysur. Gosodwyd goleuadau traffig ar gylchfannau Caerfyrddin a Phont Abraham
ers peth amser, ac nid yw tagfeydd traffig yn broblem ddifrifol yn y ddau le.
Wrth i'r ffyrdd brysuro, mater o amser yn unig ydyw nes bydd rhywun yn cael ei
anafu'n ddifrifol. Dylid defnyddio synnwyr cyffredin a chynorthwyo i gyflwyno
camau gorfodi er mwyn gwneud y ffordd hon yn llawer mwy diogel i bob modurwr
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn
absenoldeb y cysylltiad gyda'r deisebwr.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Math o fusnes: Deiseb
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2016