Is-ddeddfwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau

Is-ddeddfwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau

Rôl y Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yw ystyried a chyflwyno adroddiad ar is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Senedd.

 

Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau ffurfiol oni bai fod yn rhaid iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth nad oes angen eu gosod gerbron y Senedd hyd yn oed. Er enghraifft, nid yw gorchmynion cychwyn (h.y. is-ddeddfwriaeth sy'n pennu dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym) fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol ac nid oes angen eu gosod gerbron y Senedd. Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am orchmynion cychwyn, ond ni fydd y Pwyllgor yn craffu arnynt fel arfer.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2016

Dogfennau