Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol - Y Bumed Senedd

Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol - Y Bumed Senedd

Rôl y Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yw ystyried a chyflwyno adroddiad ar is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Senedd.

 

Mae rhai o’r is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn y weithdrefn gadarnhaol. Mae'r weithdrefn hon yn darparu na all Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth oni fydd y Senedd wedi gwneud penderfyniad i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth. Felly, mae'r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Senedd ar ffurf drafft, ac ni fydd yn dod i rym oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r drafft. Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth mwy arwyddocaol.

 

Ar gyfer y dyddiad y gwnaed is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, ewch i Legislation.gov.uk.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2016

Dogfennau