Cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datganoli Pellach i Gymru

Cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datganoli Pellach i Gymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymchwiliad byr i Gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datganoli Pellach i Gymru.

 

Ym mis Chwefror 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Bapur Gorchymyn, “Pwerau at Bwrpas: Tuag at Setliad Datganoli sy’n Para i Gymru”. Cyhoeddwyd y papur hwn yn sgil trafodaethau trawsbleidiol yn dilyn ail adroddiad y Comisiwn Silk.

 

Ar yr un pryd, cyhoeddodd y Comisiwn Smith ei adroddiad yntau, ar ôl y refferendwm ar annibyniaeth, gan wneud argymhellion ynghylch datganoli pellach yn yr Alban.

 

Yn Araith y Frenhines ym mis Mai 2015, nodwyd y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno Bil Cymru i ddeddfu’n unol â chynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y Papur Gorchymyn.

 

Tystiolaeth

 

Clywsom dystiolaeth lafar gan banel o arbenigwyr ar 22 Mehefin 2015 a oedd yn cynnwys yr Athro Thomas Glyn Watkin, yr Athro Adam Tomkins ac Emyr Lewis, a chan Brif Weinidog Cymru a’r Llywydd ar 29 Mehefin 2015.

 

Gwnaethom ganolbwyntio ar dri phrif faes yn y sesiynau hyn:

·         Y Model Cadw Pwerau

·         Sefydlogrwydd y Cynulliad

·         Wethdrefn Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2015. Bu hyn yn gymorth i’r Pwyllgor yn ei waith o graffu ar Fil Cymru drafft.

 

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/04/2016

Dogfennau