P-04-684 Galwn am Ddeddfwriaeth Cynllunio Well a Mwy Effeithiol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ac am Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd Newydd
P-04-684 Galwn am Ddeddfwriaeth Cynllunio Well a Mwy Effeithiol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ac am Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd Newydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Nortridge Perrott ar ôl casglu 11 llofnod bapur
Geiriad y ddeiseb
Dylid cyflwyno gorchymyn
dosbarthiadau defnydd newydd - Gorchymyn C5 - i gynnwys HMOs - tai
amlfeddiannaeth yng Nghymru – sy'n dod o dan y diffiniad o HMO yn Rhan 7 o'r
Ddeddf Tai 2004 ar y cyd ag Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004.
Galwn hefyd am i drothwy
dwysedd gael ei gyflwyno trwy ganiatáu i awdurdodau cynllunio ddileu hawliau
datblygu a ganiateir yn y rhannau o Gymru sy'n gweithredu cynllun trwyddedu
ychwanegol - neu ar sail dinas gyfan, pa un bynnag sydd fwyaf priodol, fel y byddai
"newid defnydd sylweddol" rhwng dosbarthiadau defnydd yng Nghymru yn
gofyn caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd.
Credwn y dylai Llywodraeth
Cymru fynd ati i gymell landlordiaid HMO sy'n ystyried "fflipio" eu
heiddo o dan y darpariaethau ar gyfer HMOs yn y Ddeddf Tai a'r Ddeddf
Cynllunio, yn debyg i gynllun Troi Tai'n Gartrefi Cymru, fel bod landlordiaid
HMOs yn cael gwneud cais am gymorth grant busnesau bach a chanolig i ddychwelyd
eiddo HMO at ddefnydd domestig yn unig.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd yr ymgyrch hon yn rhedeg
hyd at etholiad y Cynulliad yn 2016 ac mae'n gofyn bod Lywodraeth Cymru yn
defnyddio ei phwerau deddfu helaethach i gysoni'r diffiniadau cyfreithiol o dan
ddeddfwriaeth tai a deddfwriaeth cynllunio, gan hefyd alluogi i awdurdodau
cynllunio lleol ddefnyddio meini prawf DWYSEDD HMO penodol sy'n berthnasol i
gymuned neu dinas-ranbarth er mwyn cyfyngu ar nifer yr HMOs lle y nodir neu y
rhagwelir effeithiau a chanlyniadau andwyol.
Mae'r ddeiseb yn gofyn am
gymhelliant yng Nghymru a fyddai'n annog landlordiaid HMOs i ddychwelyd eiddo
at ddefnydd domestig yn unig gan felly wella'r stoc tai fforddiadwy a fyddai ar
gael.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Gorllewin Abertawe
·
Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/02/2016