P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc
P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anthony Cook ar ôl casglu
2,224 Llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i gyflwyno sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 mewn
plant a phobl ifanc.
Ym mis Ionawr eleni, yn drychinebus collom ein hannwyl ŵyr
13 oed, Peter Baldwin, a hynny oherwydd diabetes math 1 oedd heb ei ganfod nes
ei bod yn rhy hwyr i'w achub. Roedd Peter yn ddisgybl oedd yn annwyl iawn ac yn
uchel ei barch gan bawb yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Mae
pawb yn ei golli yno, ond mae'r boen i'w deulu yn aruthrol.
Yn ddiweddar, cyflwynwyd gwobr Pride of Britain i'n merch
Beth am ei hymdrechion yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer y clefyd ofnadwy
hwn, ond gyda'ch cymorth chi a chymorth eich ffrindiau a'ch teulu, gallwn ni
wneud gwahaniaeth go iawn.
A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn arwyddo'n
deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sgrinio a chodi
ymwybyddiaeth o'r angen i archwilio unrhyw un sy'n dod at weithiwr gofal iechyd
proffesiynol â symptomau anesboniadwy tebyg i ffliw neu deimlad o salwch
cyffredinol i weld a ydynt yn dioddef o ddiabetes math 1. Yr unig beth sydd ei
angen mewn prawf o'r fath yw pigiad i'r bys neu sampl wrin ac mae'n cymryd llai
o amser nag ydych chi wedi'i dreulio yn darllen y paragraff hwn; mae hefyd yn
costio ychydig geiniogau. Ein bwriad yw gwneud y prawf hwn yr un mor arferol
mewn meddygfeydd teulu a chlinigau â phrofion tymheredd a phwysau gwaed.
Drwy lofnodi'r ddeiseb hon, gallech helpu i achub bywydau
ac atal rhagor o golled erchyll mewn teuluoedd.
Gwybodaeth
ychwanegol
Y safon ddelfrydol fyddai sgrinio pob person ifanc er
mwyn canfod y cyflwr llechwraidd hwn yn gynnar. Mae sawl rhan o'r byd yn gweld
manteision sgrinio o'r fath ac yn ei gyflwyno – y diweddaraf yw Gogledd
Carolina yn UDA. Mae linc isod i benderfyniad Gogledd Carolina.
http://insulinnation.com/living/reegans-rule-passes-north-carolina/
Mae Senedd yr Alban yn arwain y ffordd yn y DU ac eisoes
wedi ymrwymo i drafod y mater, ac mae'n ymddangos yn debygol iawn y bydd yn
cychwyn sgrinio. Rydym eisiau hyn ar gyfer ein plant yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddechrau sgrinio cyn gynted â phosibl.
LLOFNODWCH Y DDEISEB A'I RHANNU Â CHYNIFER O BOBL Â
PHOSIBL
(a chofiwch longyfarch eich hun – mae'n bosibl eich bod
wedi achub bywyd plentyn)
Mae deiseb ar Change.org yn casglu llofnodion ar hyn o
bryd ar gyfer y newid hwn ar draws y DU:
https://www.change.org/p/craig-williams-mp-screen-children-for-type-1-diabetes
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Gogledd Caerdydd
·
Canol De Cymru
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor Deisebau. Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 08/03/2016.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2016
Dogfennau