P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth
P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Save Powys Schools a
chasglwyd 1,049 llofnod a’r lein
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gydnabod yr heriau ariannol o ddarparu lefel briodol o ddarpariaeth addysgol
mewn ardaloedd gwledig prin eu poblogaeth. Mae toriadau mewn gwariant yn cael
effaith niweidiol ar gymunedau ysgolion, i'r graddau bod plant yn gadael eu sir
breswyl (ac yn gynyddol, yn siroedd y gororau fel Powys, yn gadael Cymru) er
mwyn parhau â'u haddysg. Mae ysgolion a'r chweched dosbarth ar fin cyrraedd pen
eu tennyn, wedi'u llethu gan y bygythiad parhaus i gau. Mae ein plant yn cael
eu gorfodi i deithio pellteroedd anghynaladwy ar is-ffyrdd, gan chwalu grwpiau
o ffrindiau ac ychwanegu hyd at ddwy awr at y diwrnod ysgol. Mae addysg
feithrin bellach dan fygythiad hefyd. Gyda thoriadau parhaus i gyllidebau
ysgolion, sy'n achosi diswyddiadau dro ar ôl tro, mae'n amhosibl darparu addysg
o'r ansawdd y mae athrawon wedi'u hyfforddi i'w darparu, ac y mae ein pobl
ifanc yn ei haeddu.
Rydym yn annog
Llywodraeth Cymru i ymchwilio ar unwaith i'r heriau ychwanegol i addysg mewn
ardaloedd gwledig prin eu poblogaeth, ac i gynyddu'r cyllid i ardaloedd fel
Powys yn unol â hynny. Mae colli ein hysgolion yn datgan marwolaeth ein
cymunedau a'n heconomïau lleol. Os yw Cymru ddatganoledig am ffynnu, mae angen
i'n Llywodraeth arwain y trafodaethau ar ariannu yn San Steffan. Mae angen i
chi fod ar ein hochr ni!
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/12/2015