Rhaglen waith y Comisiwn Ewropeaidd 2016

Rhaglen waith y Comisiwn Ewropeaidd 2016

Mae rhaglenni gwaith blynyddol y Comisiwn Ewropeaidd yn nodi’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu bob blwyddyn, gan fanylu ar gynigion deddfwriaethol ac anneddfwriaethol arfaethedig, yn ogystal â meysydd a fydd yn cael eu hadolygu fel rhan o’r ymarfer REFIT (Ffitrwydd Rheoleiddiol) sy’n ceisio gwella effeithiolrwydd deddfwriaeth bresennol. Mae hefyd yn cynnwys manylion am ddeddfwriaeth yr UE a fydd yn cael ei diddymu yn ystod 2016, yn ogystal â chynnwys rhestr o ddeddfwriaeth a fydd yn dod i rym yn ystod 2016.

 

Ystyriodd pob un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Raglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2016 mewn perthynas â’i berthnasedd i waith eu Pwyllgor hwy. Cyhoeddwyd Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2016 ar 27 Hydref 2015.

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2015